23 Ebrill 2021

Adnodd Cerddoriaeth a Thrawsgwricwlaidd am ddim i athrawon Cynradd yr haf yma

Opera Rumpelstiltskin  – Mwy nag edafedd hardd â moeswers 

Mae opera Rumpelstiltskin wedi’i chreu gyda phobl ifanc ac ysgolion mewn cof, ac fel y disgwyl, mae’n adrodd stori am hud a lledrith, twyllo cyfrwys, comedi, tristwch, hunanddarganfod a phenbleth foesol. Mae’r deunyddiau a’r cynnwys yn berffaith ar gyfer dosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2, ond mae modd eu haddasu ar gyfer y blynyddoedd iau hefyd.

Yn ystod y tymor yma a’r nesaf, gallwch ddod â cerddoriaeth yn rhan o bopeth, gan ddefnyddio Rumpelstiltskin fel man cychwyn ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan.  Gallwch gynnwys gweithgareddau cerddorol hwyliog a syniadau canu diogel ar hyd y ffordd.

Mae Rumpelstiltskin, a gyfansoddwyd gan Helen Woods gyda libretto gan Pete Talman, wedi’i chreu a’i pherfformio gan Opera Boots.

Bydd Opera Rumpelstiltskin yn cael ei rhyddhau yn ei chyfanrwydd dros 8 pennod wythnosol yn ystod yr haf, a byddan nhw AM DDIM i’w llwytho i lawr am gyfnod cyfyngedig yn unig.

Bydd modd i athrawon cerdd anarbenigol ddefnyddio’r ymagweddau hygyrch a’r clipiau fideo hawdd eu defnyddio, ynghyd â syniadau ar gyfer cysylltiadau ar draws y cwricwlwm a thasgau ymestyn. Mae gan bob rhan o’r stori sesiynau cynhesu i fyny gyda cherddoriaeth a deunyddiau ychwanegol i ategu ac i ymestyn y dysgu. 

Gadewch i stori a themâu Rumpelstiltskin eich tywys chi drwy’r tymor yma a’r nesaf.

Cliciwch yma i gael mynediad at yr adnoddau

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD