11 Mai 2022

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Gweithgareddau ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl

Yn Arts Active rydym yn awyddus i hyrwyddo a chefnogi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Isod, fe welwch adnodd arbennig iechyd a lles oddi wrth yr artist Heloise Godfrey a’r cerddor, Rowan Talbot i chi gael mwynhau adref.
Mae’r adnodd yn cynnwys:

  • Fideo rhagymadrodd i weithgaredd celf a sut y mae’r gerddoriaeth yn ei gefnogi.
  • Taflen waith y gellir ei lawrlwytho ar gyfer y gweithgaredd celf.
  • Fideo seinwedd wedi ei ysgrifennu a’i greu gan Rowan Talbot.
  • PDF y gellid ei lawrlwytho sy’n cynnwys gwybodaeth am y seinwedd.

Gallwch ddarganfod mwy o weithgareddau ar ein tudalen adnoddau, gan gynnwys trafodaethau, pecynnau addysg a celf a chrefft.

Mae ystod eang o ddewis, nifer y medrwch rannu ar lein neu gyda ffrindiau a theulu wrth i chi archwilio, gwrando neu greu.

Lawrlwythwch eich taflen waith ‘Natur Tu Mewn, Natur Y Tu Allan’ ymahttps://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2021/05/Worksheet-1-Nature-outside-nature-inside-2-300×205.pngLawrlwythwch eich gwybodaeth Seinwedd gan Rowan Talbot PDF ymahttps://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2022/02/cym1-rowan-conc_57598159-1.png

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD