22 Mehefin 2022

Prom y Teulu 2022

I’r Gwyllt

Fel rhan o dymor Proms Cymru 2022 yn Neuadd Dewi Sant, mae Actifyddion Artistig yn cyflwyno Prom y Teulu i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd am 3:00pm ddydd Sul 10 Gorffennaf. Bydd y prom anifeilaidd hwn yn cynnwys cerddoriaeth o Jurassic Park, The Elephant o Carnival of the Animals Saint-Saëns, The Flight of the Bumblebee Rimsky-Korsakov a ffefryn y teulu, Peter a’r Blaidd, wedi’i adrodd gan Mike Church.

Bydd y gyngerdd awr o hyd yn cael ei chwarae gan Gerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, dan arweiniad Michael Bell MBE. Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i wefan Neuadd Dewi Sant: https://www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk/beth-sydd-ymlaen/prom-cymru-2022/prom-y-teulu/

Hwyl Prom y Teulu

Mae Actifyddion Artistig wedi cynhyrchu amrywiaeth o weithgareddau hwyl i wella eich profiad ym Mhom y Teulu. Gwrandewch ar ein rhestr chwarae ymgyfarwyddo â pheth o’r gerddoriaeth, dysgu mwy am Peter a’r Blaidd gyda’n pecyn gweithgareddau neu beth am wneud un o’n mygydau Peter a’r Blaidd a’i wisgo i’r prom?!

Mae’r gweithgareddau’n addas i blant 5 oed neu hŷn, gyda rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau!

Rhestr Chwarae Prom y Teulu

https://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2022/06/peter-and-the-w_59073413.png

Gwneud Mwgwd

Hoffech chi fod y blaidd neu’r gath, neu efallai’r hwyaden, yn stori Peter? Cliciwch yma i ddysgu sut i wneud mygydau anifeiliaid Peter a’r Blaidd: https://artsactive.org.uk/slug/mask-making/

Nawr gallwch eu gwisgo mewn steil i Brom y Teulu!

Adrodd Straeon ac Actio Anifeiliaid

A yw stori glasurol Prokofiev am Peter a’r Blaidd wedi eich ysbrydoli i greu eich stori eich hun? Neu efallai eich bod wedi cael eich ysbrydoli gan rai o’i anifeiliaid!
Rhowch gynnig ar eich sgiliau adrodd stori ac actio gyda Kieron Rees wrth iddo siarad â chi am sut i feddwl am syniadau a chreu eich stori eich hun a dangos i chi sut i ddatblygu cymeriadau gan ddefnyddio ymarferion anifeilaidd.

Adrodd stori (creu stori)Actio Anifeiliaid

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD