26 Chwefror 2023

Lab Cerdd Arbrofol Actifyddion Artistig

Cyfle i bobl ifanc archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu croestoriad rhwng genres cerddorol.

Mae’r Lab Cerdd Arbrofol yn gyfle i bobl 15-19 oed archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu croestoriad rhwng genres cerddorol. Gan ddefnyddio technegau recordio a thrin sain, gall y cyfranogwyr ddefnyddio offerynnau traddodiadol a ffynonellau sain eraill, fel y llais a synau a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol yn ogystal â chelf sain, celf sŵn a chelf perfformio.

Yn cynnwys addysg lefel mynediad ym maes recordio sain, casglu sain, trin sain, defnyddio plyg-ins a gosodiadau offer sain sylfaenol. 

Anogir cyfranogwyr i ddod ag offeryn a’i ddefnyddio i greu recordiadau cerdd neu sain.

 Gellir hefyd defnyddio offerynnau rhithwir, pecynnau sampl, syntheseiddwyr a lŵps.Yna, bydd y cyfranogwyr yn cael eu rhannu’n barau neu’n grwpiau bach ac yn cael eu hannog i gydweithio i greu darn byr newydd o gerddoriaeth o unrhyw genre, celf sain, celf sŵn, neu unrhyw beth arall.

Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!

Sesiynau grŵp ar 4 a 18 Mawrth, yn ogystal ag amserlen sesiynau pâr. 

Rowan Talbot – Arweinydd Cwrs

Mae Rowan yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer theatr, ffilm, animeiddiadau, dawns gyfoes a’r syrcas. Mae’n gyfansoddwr preswyl, yn gyfarwyddwr cerdd ac yn gerddor ar gyfer Cwmni Dawns Ransack, ac fe yw cyfansoddwr preswyl a chyfarwyddwr cerdd Cwmni Theatr Rude Mechanical.

Yn ogystal, mae wedi cyfansoddi ar gyfer cwmnïau fel National Theatre Wales, Theatr Mercury Cymru, Prifysgol Cymru, Ymddiriedolaeth Wellcome, a’r NSPCC.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD