Mae Arts Active Trust yn defnyddio grant Cefnogi Syniadau Gwych i weithio gydag arweinwyr cymunedol ifanc i gyd-gynhyrchu Ystafelloedd Darllen rheolaidd, lle mae pobl ifanc ar y cyrion yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol, cynnal sgyrsiau sy’n archwilio safbwyntiau gwahanol, ac yn gallu adeiladu pŵer dinesig. Bydd y prosiect yn dechrau yng Nghaerdydd lle cynhaliwyd cynllun peilot llwyddiannus o’r blaen, cyn tyfu i gynnwys Pontypridd a Blaenau Ffestiniog. Bydd y grant yn ariannu costau staffio, gweinyddu, monitro a gwerthuso, costau gweithdy, llogi lleoliadau, lluniaeth, deunyddiau hyfforddi, cyfieithu Cymraeg a BSL, marchnata, a dylunio gwefan.