Drwy gydweithio â sefydliadau celfyddydol a chymunedol eraill, rydyn ni’n dathlu ac yn hyrwyddo cyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu fel dull cynaliadwy o weithio sy’n seiliedig ar ddysgu.
Cryfder ein rhaglen yw mai ein cymunedau sy’n berchen ar ein rhaglen. Mae gweithio gyda phobl eraill mewn partneriaeth yn ein helpu i feithrin a datblygu perthnasau ystyrlon sy’n hollbwysig i hirhoedledd a chyrhaeddiad y gwaith y byddwn ni’n ei greu.
Prosiect Gwarcheidwaid y Biosffer 2050
Prosiect cyfnewid i bobl ifanc yw Gwarcheidwaid y Biosffer 2050, sy’n defnyddio gêm fwrdd chwarae rôl. Gweithredu ym maes bioamrywiaeth a’r hinsawdd yw thema’r prosiect. Daeth tîm Cymru o ddylunwyr gemau at ei gilydd drwy brosiect a ddatblygwyd gan PlayFrame ac a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Actifyddion Artistig gyda chymorth Taith – Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol Cymru.
Bydd cyfranogwyr yn Kempten (Yr Almen), Trento (Yr Eidal), Sligo (Iwerddon) ac o bob rhan o Gymru yn cydweithio i greu gweledigaeth o’r dyfodol agos lle mae dynoliaeth wedi dechrau gweithredu fel elfen gyfrifol yn y byd.
Yn y dyfodol agos, mae llawer o warchodfeydd natur eang newydd wedi cael eu sefydlu ar draws y byd i weithio yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a gadael i natur ddychwelyd. Gwarcheidwaid y Biosffer yw’r gwyddonwyr, y ceidwaid a’r llysgenhadon sy’n gwarchod ac yn rheoli ‘ysgyfaint newydd y Ddaear’.
Er gwaetha’r tro cadarnhaol byd-eang yma, dydy popeth ddim yn mynd fel dylen nhw bob amser; gall peryglon newydd annisgwyl ymddangos, ac i rai pobl, mae’n anodd anwybyddu temtasiwn hen arferion dinistriol…
Mae prosiect Gwarcheidwaid y Biosffer yn enghraifft wych o greadigrwydd, o weithio mewn tîm ac o ddatrys problemau ymhlith pobl ifanc. Mae’r prosiect yn rhan o raglen gyfnewid ryngwladol sy’n cynnwys teithiau cyfnewid i grwpiau i’r Eidal, yr Almaen ac Iwerddon, ynghyd â sesiynau ar-lein rheolaidd.