15 Medi 2025

GALWAD: CYNORTHWYYDD CYMORTH PROSIECT

Cyfres Glasurol Caerdydd – Actifyddion Artistig

Rydym yn chwilio am unigolyn dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â’n tîm Cyfres Glasurol Caerdydd fel Cynorthwyydd Cymorth Prosiect, i helpu i gyflwyno gweithdai cerddoriaeth personol diddorol i bobl ifanc ymhob rhan o’r gymuned.

Mae’r gweithdai hyn yn dod â cherddoriaeth glasurol ac arbrofol i leoliadau hygyrch, cynhwysol, gan gynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc archwilio cyfansoddi a gwahanol fydoedd sain.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol am weithio gyda phobl ifanc a chefnogi profiadau dysgu creadigol.

Cyfrifoldebau’r Rôl

Fel Cynorthwyydd Cymorth Prosiect, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol mewn cynnal gweithdai’n ddidrafferth. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
• Gosod a chlirio mannau gweithdy
• Croesawu a thywys tiwtoriaid a chyfranogwyr i’r mannau cywir
• Sicrhau bod yr holl diwtoriaid a chyfranogwyr yn ymwybodol o brotocolau gweithdy neu leoliadau perthnasol
• Cefnogi’r tiwtor yn ystod sesiynau yn ôl yr angen
• Darparu adborth i Actifyddion Artistig ar bob sesiwn (e.e. nifer y cyfranogwyr, cynnwys y gweithdy, unrhyw faterion neu uchafbwyntiau, adborth gan diwtoriaid/cyfranogwyr)
• Lle bo’n briodol, tynnu lluniau neu fideo i helpu i gofnodi’r gweithdai
• Adrodd yn uniongyrchol i’r Dirprwy Reolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau yn Actifyddion Artistig.

Yr Hyn Rydyn Ni’n Chwilio Amdano

Hanfodol
•gwedd gyfeillgar, broffesiynol a hawddgar
• Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc
• Yn fodlon ac yn gallu cael Gwiriad GDG (gallwn drefnu hyn os nad yw wedi’i gynnal eisoes)
• Diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol a/neu arbrofol
• Ar gael ar amseroedd hyblyg, gan gynnwys rhywfaint o waith penwythnos
• Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant lle bo angen (e.e. Amddiffyn Plant, Iechyd a Diogelwch)
• Y gallu i weithio ar draws gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd
• Agwedd ragweithiol sy’n canolbwyntio ar atebion
• Yn hapus i weithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm
• Rhaid bod dros 18 oed.

Sgiliau a Phrofiad Dymunol
• Profiad o weithio gyda phobl ifanc niwrowahanol
• Cefndir mewn cerddoriaeth neu addysg gerddoriaeth
• Profiad o gefnogi neu gyflwyno gweithdai cerddoriaeth
• Sgiliau Cymraeg (llafar neu ysgrifenedig)

Oriau Gwaith Enghreifftiol
• Un dydd Sadwrn y mis: 9:30am – 3:30pm
• Un wythnos fesul tymor academaidd: Dydd Llun i Ddydd Iau, 9:30am – 2:00pm

Mae’r rôl hon yn rhedeg yn bennaf o fis Hydref 2025 i fis Gorffennaf 2026, gyda’r potensial ar gyfer cyfleoedd parhaus yn rhaglenni Cyfres Glasurol Caerdydd yn y dyfodol.

Sut i Wneud Cais

Mae hwn yn gyfle â thâl, gydag oriau a ffioedd i’w trafod yn ystod y broses ymgeisio.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr yn esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl hon i: Rhian.Workman@caerdydd.gov.uk erbyn 3 Hydref 2025.

Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad anffurfiol fel rhan o’r broses ddethol.

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD