RUMPELSTILTSKIN – Opera i ysgolion Cynradd.

Adnodd Cerddoriaeth a Thrawsgwricwlaidd AM DDIM i Athrawon Cynradd.

Rydyn ni’n falch iawn o rannu RUMPELSTILTSKIN gyda chi, sef opera newydd wedi’i chreu gyda phlant ifanc ac ysgolion mewn cof. Cafodd ei chyfansoddi gan Helen Woods gyda libreto gan Pete Talman, a’i chreu a’i pherfformio gan Operaboots mewn partneriaeth ag Actifyddion Artistig.  OPERA ar gyfer Cynradd  (mewn 8 rhan) yw hi, ac mae’n adrodd stori am hud a lledrith, twyllo cyfrwys, celwyddau, comedi, tristwch, hunanddarganfod, a dilema foesol.  Ond mae’r fersiwn yma wedi’i gosod mewn llys, ac mae pwnc cystodaeth plentyn yn cael ei archwilio.

Mae’r adnodd AM DDIM yma yn addas i bob oed ar lefel gynradd. Mae’r prosiect yn cynnwys 8 pennod fideo a gweithgareddau ategol – rhai cerddorol a thrawsgwricwlaidd – i ehangu’r dysgu mewn ffordd hwyliog. Mae nodiadau gan y cyfansoddwyr ar gael i bob pennod hefyd, ynghyd â manylion amser fel bod modd ei gynllunio o gwmpas eich amserlen chi. Does dim angen poeni am baratoi dim byd, mae’r adnoddau’n barod i’w defnyddio ac mae’r addysgu wedi’i wreiddio ynddyn nhw. 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD