Caerdydd Glasurol: Jordan Ashman – Offerynnau Taro
Mae Jordan yn offerynnwr taro 19 oed o Gaergrawnt sydd ar hyn o bryd yn ei ail flwyddyn o astudio yn y Royal Birmingham Conservatoire gyda gwobr ysgoloriaeth, lle enillodd wobr Winifred Micklam yn ei flwyddyn gyntaf. Yn 2022 enillodd Jordan Rownd Derfynol Cerddor Ifanc y BBC yn The Bridgewater Hall ynghyd â Cherddorfa Ffilharmonig y BBC dan arweiniad Mark Wigglesworth. (Credyd Llun: BBC & David Prince).
Alexej Gerassimez – Piazonore
Robert Oetomo – Fantasy Number 5: As the Snow Falls
Anna Ignatowicz – Toccata
Gene Koshinski – Caleidoscopio
Krystian Skubata – Strawberry Therapy (#2, From the Bottom of the Soul)
Harold Arlen – Over the Rainbow
Pius Cheung – Etude in E Minor
Mae’r rhaglen hon o gyngherddau hygyrch, anffurfiol yn rhoi proffil i lawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus, tra hefyd yn cefnogi artisitiad newydd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yma yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant San Andreas, ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis.
Rydym mor falch o gael y cerddor ifanc uchelgeisiol a hynod dalentog hwn i agor ein Rhaglen Wanwyn.
Tocynnau: £6.50 (ar y drws).
(Credyd Llun: BBC & David Prince).