Dydd Mawrth 2nd Gorffennaf 2024

Caerdydd Glasurol: Pedwarawd Adelphi

1:00PM - 2:00PM
Eglwys Dewi Sant,

Caerdydd Glasurol: Pedwarawd Adelphi

Wedi’i sefydlu yn 2017 yn y Mozarteum yn Salzburg, mae The Adelphi Quartet yn cynnwys pedwar cerddor Ewropeaidd o Wlad Belg, Sbaen, y DU a’r Almaen. Yn enillwyr yr 2il wobr a Gwobr Sefydliad Esterházy yng Nghystadleuaeth Pedwarawd Llinynnol Rhyngwladol Neuadd Wigmore 2022, mae perfformiad y Pedwarawd Adelphi yn Eglwys Dewi Sant yn rhan o benllanw eu taith DU diweddaraf, ‘4 HORIZONS, 4 OFFERYNNAU, 16 STRINGS ‘ lle byddant yn perfformio rhaglen o Haydn, Purcell a Britten.

Maxime MICHALUK (Ffidil I / Gwlad Belg). Esther AGUSTÍ MATABOSCH (Ffidil II / Sbaen). Adam NEWMAN (Fiola / Deyrnas Unedig). Nepomuk BRAUN (Fioloncello / Yr Almaen).

HAYDN: String Quartet in C minor, op. 17 No. 4
PURCELL: Fantasias in 4 parts
BRITTEN:  String Quartet No.2 in C, Op.36 (1945)

Mae’r rhaglen hon o gyngherddau hygyrch, anffurfiol yn rhoi proffil i lawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus, tra hefyd yn cefnogi artisitiad newydd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yma yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant San Andreas, ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis. 

(Credyd Llun: Roland Unger).

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD