Mae’r sesiynau hamddenol, cyfeillgar hyn am ddim i’w mynychu ac ar agor i bawb – o gerddorion proffesiynol i’r rhai heb unrhyw brofiad o gwbl.
Dysgwch sut i chwarae gitâr, iwcalili, offerynnau taro neu biano, dan arweiniad arweinwyr cerdd arbenigol, neu dewch ag unrhyw offerynnau eraill rydych chi’n eu chwarae’n barod. Hyd yn oed os nad ydych erioed wedi chwarae offeryn o’r blaen, byddwch chi’n synnu pa mor gyflym a hawdd y gallwch ymuno!
Mae’r Arweinwyr Cerdd yn hapus i weithio ar unrhyw ddarnau o gerddoriaeth y gofynnir amdanynt. Yn y gorffennol, mae’r rhain wedi cynnwys Bob Dylan, Radiohead, Elbow, Fleetwood Mac ac Alanis Morrisette!
Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Mercher yn ystod y tymor, 10:30am-12:30pm, yn Eglwys Bresbyteraidd Bethel, Heol Llanfihangel, Caerdydd.
Mae hyn yn cyd-fynd â bore coffi yn yr un lleoliad rhwng 10:30am ac 1:00pm, felly gallwch hefyd fwynhau paned o goffi neu de a sgwrs gyfeillgar!
Mae’r sesiynau am ddim.
I gadw eich lle, anfonwch e-bost at a2@artsactive.org.uk
Partneriaeth rhwng Actifyddion Artistig a Cherdd Gymunedol Cymru.


