Animeiddiad Criw Celf A2 gyda’r artist Esme Powell
Treuliwch y diwrnod yn creu animeiddiadau byr gan ddefnyddio gwahanol dechnegau stop-symud 2D. Bydd y gweithdy yn rhoi cyflwyniad i animeiddio a chyn-gynhyrchu, gyda thasgau yn cynnwys dylunio cymeriadau, bwrdd stori, creu asedau, ac animeiddio lluniadu â llaw/collage.
Byddwch yn dysgu sut i greu gosodiad stop-symud gartref, sy’n golygu y gallwch chi gymryd y sgiliau a ddysgwch o’r gweithdy hwn a’u datblygu ymhellach os hoffech chi! Delfrydol ar gyfer dechreuwyr ac animeiddwyr newydd.
Darperir yr holl ddeunyddiau