A2: Criw Celf a FabLab

10:00AM - 2:30PM
Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Bydd FabLab yn gosod y dasg i ddau dîm o adeiladu’r car cit mini cyflymaf ar gyfer ein V Track.

Byddant yn mynd benben am dlws trac FabLab V chwenychedig! Mae’r diwrnod llawn hwyl ac addysgiadol hwn yn addas i unrhyw un 14-18 oed.

Boed hynny at ddiben dysgu ymarferol, adeiladu tîm neu herio’ch hun a chael hwyl, mae’r cyfan wedi’i gynnwys ar y trac V. Mae’r diwrnod yn dechrau gyda chyflwyniad i’r tasgau a’r trac V ac yna arddangosiad adeiladu cit. Yna bydd eich grŵp yn cael ei rannu’n dimau ac mae’r gystadleuaeth yn dechrau!

Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.

FabLab Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd,  Rhodfa’r Gorllewin, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YB

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD