Mina Middleton, Flute, Alis Huws, Harp, Ben Tarlton, Cello.
Mae’r rhaglen yma’n proffilio cerddorion sefydledig ac adnabyddus yn ogystal â chefnogi artistiaid newydd o bob rhan o Gymru, gwledydd Prydain ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yn digwydd yng nghanol y ddinas, yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant St Andrew, ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis. Maen nhw’n hygyrch, yn ymlaciol ac yn anffurfiol, ac yn gyflwyniad perffaith i unrhyw un sy’n newydd i’r sîn gerddoriaeth glasurol, neu sy’n angerddol am gerddoriaeth glasurol. Gallwch alw draw i fwynhau’r rhain yn ystod eich amser cinio, gwneud prynhawn ohoni gyda ffrindiau neu deulu, neu ddod draw ar eich pen eich hunan i fwynhau!
Tocynnau: £6.50