Dovetail Orchestra Gwanwyn 2026

10:00AM - 11:30AM
Eglwys Dewi Sant

Mae Cerddorfa Dovetail yn bodoli i ddarparu lle croesawgar i geiswyr lloches a ffoaduriaid, gan adeiladu cysylltiadau trwy gerddoriaeth a chefnogi dysgu cerddorol yn wythnosol.

Lansiwyd Dovetail Caerdydd yn swyddogol ym mis Ionawr 2025, gan greu gofod cerddorol diogel lle mae croeso i unrhyw un o gymunedau ceiswyr lloches a ffoaduriaid Caerdydd a’r cyffiniau ymuno.

Gan ddathlu’r ieithoedd a’r diwylliannau niferus sy’n cael eu cynrychioli yn ein grŵp trwy gerddoriaeth, rydym yn gweithio ar ganeuon gwerin o Gymru, cyfansoddiadau gwreiddiol a chaneuon traddodiadol o wledydd cartref y rhai sy’n cymryd rhan. Mae ein sesiynau yn creu cymysgedd bywiog o arddulliau rydyn ni wrth ein bodd yn canu, yn chwarae ac yn dawnsio iddynt. Nid y gerddoriaeth yn unig sy’n bwysig, ond rhannu straeon, meithrin cyfeillgarwch, a dysgu oddi wrth ein gilydd hefyd.

Caiff ymarferion eu cynnal ar foreau Iau rhwng 10am ac 11:30am, ac yna ceir lluniaeth. Nid oes angen unrhyw brofiad cerddorol, ac mae croeso i bob arddull o gerddoriaeth. P’un a ydych chi’n chwarae, yn canu, neu eisiau trio rhywbeth newydd, rydym yn eich annog i ddod draw a rhoi cynnig arni.

Mae Dovetail Caerdydd yn cael ei arwain gan Helen Woods, gyda chefnogaeth grŵp o gerddorion cyfeillgar i gynorthwyo a llywio taith gerddorol pawb.

I gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch Dovetail (Cardiff@dovetailorchestra.org.uk) gan ddweud ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun ac unrhyw gerddoriaeth rydych chi’n ei mwynhau.

Mae taliad ar gael i deithio ar fws i’r eglwys os oes ei angen arnoch.


“It was such a pleasure and so much fun spending time with you. Thank you very much for everything.  You are a wonderful group.”

“I love your passion to help us make music”

“I Love this space. So safe and welcoming”

“Dovetail had a huge, unforgettable impact on my life, more than anyone could imagine. I’m still so glad I saw your ad and immediately emailed to join.”

 

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD