Lab Cerdd

10:30AM - 3:00PM
Chapter Arts Centre

Mae’r Lab Cerdd yn gyfle i bobl 14-19 oed archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu, recordio a golygu cerddoriaeth. 

Bydd y Lab Cerdd yn cael ei arwain gan y tiwtor Will Frampton, gyda detholiad o gerddorion proffesiynol. Bydd y cyfranogwyr yn creu seinweddau gyda’r cerddorion, gan ddefnyddio offerynnau cerdd traddodiadol yn ogystal â ffynonellau sain eraill, fel llais a sain a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol a chelf sain. Bydd apiau, syntheseiddwyr, lŵps ac elfennau eraill o recordio a golygu sain hefyd yn cael eu defnyddio, a bydd croeso i gyfranogwyr ddod â’u hofferynnau eu hunain. Er bod y sesiynau ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 19 oed, os ydych chi tu allan i’r grŵp oedran yma ond bod gennych feddwl creadigol a brwdfrydedd am gerddoriaeth, cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd eraill. a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com. 

Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!

Mae’r Lab Cerdd, a ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn un o’r prosiectau sy’n rhan o raglen Pobl Ifanc Greadigol, sy’n rhaglen o weithgareddau amrywiol, archwiliadol, arloesol ac arbrofol gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer. Waeth beth yw’r ffurf ar gelfyddyd, wrth wraidd ein rhaglen ‘pobl ifanc greadigol’ mae’r awydd i annog chwilfrydedd dan arweiniad y celfyddydau, a chynnig ffordd o ddarganfod a gwella iaith o hunanfynegiant ymhlith cyfranogwyr.

 

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD