Mae Soundworks, ein gweithdai creu cerddoriaeth i oedolion sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau cynhwysol hyn yn annog cyfranogwyr i fwynhau seiniau, rhythmau ac offerynnau mewn cyd-destun anffurfiol, hygyrch a diogel. Yn ystod y sesiynau, bydd y cyfranogwyr yn edrych ar gerrig sylfaen cerddoriaeth, gyda chymorth ac anogaeth eu gofalwyr. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau sy’n golygu defnyddio cerddoriaeth i feithrin sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.
Dyma le creadigol sy’n llawn hwyl, yn gyfeillgar ac yn RHAD AC AM DDIM!
New for the autumn is the SOUNDWORKS Spotify playlist. Each week Phil & Emma will create a playlist based around the theme for the session for you to enjoy. You can download the link via our website or across our social medias as & when we post.
https://open.spotify.com/playlist/3erk4UI8ExxgVkF6WrmZ84?si=a991a690d7014f47
Mae croeso i aelodau newydd – cysylltwch â ni dros e-bost: a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com neu drwy ffonio 02920 878572