Mewn partneriaeth â Barnardo’s, mae Actifyddion Artistig yn cynnal sesiynau Soundworks i bobl ifanc bob dydd Mercher yn ystod y tymor, i blant hyd at 18 oed. Yn ystod y sesiynau hyn, bydd y plant yn dysgu am elfennau creu cerddoriaeth, yn ogystal â chael cyfle i roi cynnig ar offerynnau gan gynnwys iwcalilis ac offerynnau taro. Byddan nhw hefyd yn cael clywed offerynnau fel y sielo a’r clarinét yn cael eu chwarae’n fyw gan gerddorion proffesiynol.
Wedi’i ariannu gan Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, drwy ei chronfa Atsain. Mae buddsoddiad gan Youth Music yn cefnogi’r gwaith hwn, ynghyd â chefnogaeth gan noddwyr sefydlol Anthem a Llywodraeth Cymru.
Cerddorion a Hwyluswyr: Daisy Evans & Katie Hole