A2: Pobl Ifanc Greadigol

Beth bynnag yw’r ffurf gelfyddydol, yn ganolog i’n rhaglen ‘Criw Celf’ y mae’r dyhead i annog pobl i drin a thrafod pethau drwy gyfwng celfyddyd, a rhoi cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan ddarganfod a chryfhau eu ffyrdd o fynegi eu hunain.

Mae ein rhaglen Pobl Ifanc Greadigol yn rhaglen o weithgareddau amrywiol, archwiliol, arloesol ac arbrofol gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. 

Mae ein gwaith drwy raglen Criw Celf, Troeon Cerdded y Machlud (Sunset Walks), y Prosiect Galw (Calling Project) a phrosiect ymchwil Cychwyn Egnïol (Kick Starter) wedi annog pobl i feddwl a dysgu’n greadigol fel man cychwyn i helpu pobl ifanc i gydnabod eu cryfderau. 

Beth bynnag yw’r ffurf gelfyddydol, yn ganolog i’n rhaglen ‘Criw Celf’ y mae’r dyhead i annog pobl i drin a thrafod pethau drwy gyfwng celfyddyd, a rhoi cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan ddarganfod a chryfhau eu ffyrdd o fynegi eu hunain.

Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i wreiddio gweithgareddau gyda grwpiau sy’n bodoli’n barod mewn mannau cyfarwydd a diogel, er mwyn helpu i oresgyn y rhwystrau ymddangosiadol sy’n atal pobl rhag gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.

Lab Cerdd Arbrofol Actifyddion Artistig

Cyfle i bobl ifanc archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu croestoriad rhwng genres cerddorol.

Mae’r Lab Cerdd Arbrofol yn gyfle i bobl 15-19 oed archwilio posibiliadau technoleg cerdd fel ffordd o greu croestoriad rhwng genres cerddorol. Gan ddefnyddio technegau recordio a thrin sain, gall y cyfranogwyr ddefnyddio offerynnau traddodiadol a ffynonellau sain eraill, fel y llais a synau a ganfyddir, i greu cerddoriaeth arbrofol yn ogystal â chelf sain, celf sŵn a chelf perfformio.

Yn cynnwys addysg lefel mynediad ym maes recordio sain, casglu sain, trin sain, defnyddio plyg-ins a gosodiadau offer sain sylfaenol. 

Anogir cyfranogwyr i ddod ag offeryn a’i ddefnyddio i greu recordiadau cerdd neu sain.

 Gellir hefyd defnyddio offerynnau rhithwir, pecynnau sampl, syntheseiddwyr a lŵps.Yna, bydd y cyfranogwyr yn cael eu rhannu’n barau neu’n grwpiau bach ac yn cael eu hannog i gydweithio i greu darn byr newydd o gerddoriaeth o unrhyw genre, celf sain, celf sŵn, neu unrhyw beth arall.

Fydd dim rhwystrau i’ch creadigaethau!

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD