ArtWorks Cymru

Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig sy’n cynnal ArtWorks Cymru, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru. Partneriaeth wedi’i lleoli yng Nghymru yw’r rhaglen hon, sy’n datblygu ymarfer mewn lleoliadau cyfranogol.

Datblygu ymarfer mewn lleoliadau cyfranogol yng Nghymru.

Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig sy’n cynnal ArtWorks Cymru, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Partneriaeth wedi’i lleoli yng Nghymru yw rhaglen ArtWorks Cymru, sy’n datblygu ymarfer mewn lleoliadau cyfranogol. Mae’n hybu datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid sydd ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ac sy’n gweithio mewn lleoliadau cyfranogol.

Mae’r rhaglen hefyd yn eirioli dros werth y celfyddydau cyfranogol. Consortiwm o bartneriaid sy’n gyfrifol am waith ArtWorks Cymru, ac yn eu plith artistiaid a sefydliadau celfyddydol o bob cwr o Gymru. I gael rhagor o wybodaeth am ArtWorks Cymru a’n prosiectau presennol, ewch i https://artworks.cymru/

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD