Mae A2: Criw Celf yn cynnig rhaglen amrywiol o gyfleoedd i artistiaid ifanc, gan eu galluogi i weithio gydag artistiaid, curaduron, dylunwyr a gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol (ac ati) i feithrin gwell dealltwriaeth a gwell profiad o ymarfer presennol yn y celfyddydau gweledol. Mae Criw Celf yn gweithio gyda phobl ifanc sydd â thalent benodol neu ddiddordeb yn y celfyddydau gweledol, gan eu helpu i ddatblygu eu potensial yn llawn.
Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n noddi A2: Criw Celf ac mae’r cynllun yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydol, orielau a cholegau, gan wreiddio ein gwaith yn ardal cynghorau sir Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.