Open Orchestras

Mae prosiect Open Orchestras wedi’i ddatblygu’n ofalus drwy broses ddylunio gyfranogol gyda cherddorion anabl ifanc, athrawon ac arweinwyr cerdd. Ei nod yw mynd i’r afael â diffyg darpariaeth ensembles cerddorol mewn ysgolion AAA.

Mae Open Orchestras yn brosiect sy’n darparu sesiynau cerdd mewn ysgolion arbennig yng Nghaerdydd, gan alluogi disgyblion a staff i elwa o gyfleodd unigryw i gyfrannu a chael hyfforddiant.  Mae prosiect Open Orchestras wedi’i ddatblygu’n ofalus drwy broses ddylunio gyfranogol gyda cherddorion anabl ifanc, athrawon ac arweinwyr cerdd. Ei nod yw mynd i’r afael â diffyg darpariaeth ensembles cerddorol mewn ysgolion AAA.

Yn y sesiynau hyn, bydd ein harweinwyr cerdd yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i alluogi plant sydd ag amrywiaeth o namau difrifol i greu cerddoriaeth, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg llwybr llygad.

Mae’r sesiynau hyn yn dilyn dull cerrig sylfaen, lle byddwn ni’n dechrau gyda gweithdy un-i-un sydd wedi’i deilwra i’r disgybl unigol, gan ddatblygu yn sesiynau grŵp sy’n datblygu sgiliau creu cerddoriaeth ochr yn ochr â’r sesiynau unigol.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio gyda dwy ysgol AAA yn ardal Caerdydd fel rhan o raglen Open Orchestras sy’n cynnig cyfleoedd pontio a chontinwwm i gyfranogwyr rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD