Proms Actifyddion Artistig

Cyfres o gyngherddau cerddorol sydd wedi’u creu gan dîm creadigol Actifyddion Artistig a’r rheini’n gynhwysol ac yn hygyrch i blant bach iawn, plant ifanc a’u teuluoedd.

Prom Tidli

Mae Prom Tidli wedi bod yn teithio’n flynyddol ers 2004 gyda phum sioe hynod o boblogaidd: Bert’s Magical Musical Farmyard, Bert’s Magical Musical Kitchen, Bert’s Magical Musical Allotment, Cherry Pie’s Holiday Adventure, a sioe Nadolig arbennig, Bert and Cherry’s Christmas Plum Pudding.

Mae’r cyngherddau hygyrch, rhyngweithiol a difyr hyn i blant cyn oed ysgol yn hudo, yn rhyfeddu ac yn ysbrydoli plant ifanc a’r oedolion maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, ynghyd â’r rheini na fydd yn cael llawer o gyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw. Nid yn unig y mae’r perfformiadau’n llawn hwyl, ond maen nhw’n addysgiadol hefyd. Bydd y plant yn dysgu am rai o gerrig sylfaen cerddoriaeth ynghyd â gwella’u sgiliau datrys problemau a’u sgiliau gwaith tîm.

Mae holl sioeau Prom Tidli wedi’u creu’n arbennig gan dîm creadigol Actifyddion Artistig ar gyfer plant dan bump oed, ac mae’n gyfle gwych i blant ifanc fwynhau cerddoriaeth yn rhyngweithiol, a hynny yng nghwmni cerddorion proffesiynol gyda digon o hwyl a chreadigrwydd. Helen Woods sydd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth, a honno’n cael ei pherfformio’n fyw gan gerddorion cerddorfaol. Law yn llaw â stori ddoniol, wirion a chymeriadau hoffus, mae Prom Tidli yn cyflwyno offerynnau cerddorfaol a phob math o gysyniadau cerddorol i blant y blynyddoedd cynnar, gan eu difyrru bob cam o’r ffordd ar yr un pryd.

Prom y Teulu

Prom wedi’i ddylunio gan dîm creadigol Actifyddion Artistig yw hwn, fel rhan o bromiau blynyddol Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Arweinydd Michael Bell a Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd. Mae’r cyngerdd i’r teulu yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno plant ifanc a’u teuluoedd i gerddoriaeth gerddorfaol. Gan roi gwledd i’r llygad a’r glust, bydd y gerddorfa’n cyflwyno amryw o themâu cerddorol ond eto theatrig, gyda phropiau, cymeriadau, gwisgoedd doniol, ymwneud â’r gynulleidfa, a llawer iawn mwy. Mae’n brofiad gwefreiddiol, llawn hwyl i bawb, ac yn un hamddenol a hygyrch hefyd.

Prom Soundworks

Dyma gyngerdd hamddenol yn ystod yr haf, yn rhan o’n rhaglen gynhwysol Soundworks i oedolion a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Cyngerdd byr yw hwn sy’n cynnwys rhaglen amrywiol o gerddoriaeth ysgafn a difyr, gyda’r cerddorion a’r arweinwyr gweithdai Emma Davies a Philip Richards-May yn arwain ac yn perfformio, ochr yn ochr â gwesteion cerddorol arbennig.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD