Mae drama’n declyn anhygoel ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae’n ffordd hwyliog o wreiddio dysgu am ystod o bynciau; ac mae’n cynnig gwledd o fanteision, gan gynnwys meithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith, annog cydweithio, datblygu deallusrwydd emosiynol, ysbrydoli meddwl creadigol – i enwi dim ond rhai manteision! Dyma’r trydydd o dri fideo Sgiliau dim Ffriliau, sy’n rhoi syniadau a chyngor i athrawon ar gyfer defnyddio drama yn yr ystafell ddosbarth. Gweld Drama #1. Gweld Drama #2.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Drama #3: Meithrin Meddwl Creadigol
Mae dyfalbarhad, cydweithio, dychymyg, chwilfrydedd a disgyblaeth i gyd yn sgiliau gall eu datblygu wrth wneud gweithgareddau creadigol a drama
Mae gemau a gweithgareddau drama yn darparu cyfle i ddysgwyr arbrofi a cheisio syniadau newydd mewn modd chwareus
Byddwch yn ddewr – os torrwch chi dir newydd yn eich ffordd o feddwl fe wnâwn nhw hefyd!
Gweithgaredd 1: Pryfed Prysur
Mae’r gêm yma’n wych at unrhyw oed. Gweithgaredd corfforol gydag elfen o gystadleuaeth iachus hefyd, mae’r gêm yma’n gofyn i fyfyrwyr i feddwl yn ddychmygus a’u herio i arddangos syniadau tryw defnyddio’u cyrff.
- Mae’r dosbarth yn symud o gwmpas y neuadd fel ‘pryfed prysur’.
- Rydych chi’n gweiddi llythyren o’r wyddor.
- Mae’n rhaid i’r disgyblion i gyd gwneud ‘mime’, gan droi eu corff cyfan yn rywbeth sy’n cychwyn â’r llythyren honno.
- Dim ond os ydych chi’n rhywbeth gwahanol i bawb arall y cewch chi bwyntiau. Mae hyn yn gorfodi’r disgyblion i ddefnyddio’u dychymyg a meddwl am bethau anghyffredin.
Gweithgaredd 2: Heidio
Gêm ‘Dilynwch fi’ (Follow the Leader) wedi’i arafu!
Mae gwaith tîm yn allweddol i waith drama. Wrth fod eich dysgwyr yn ffocysu ar adlweyrchu symudiadau arweinydd y grŵp, bydden nhw’n datblygu sgiliau cydweithredu hanfodol o wrando ac arsylwi.
Mae heidio’n ymarfer corfforol ardderchog y gallwch ei wneud mewn grwpiau o dri neu gyda’r dosbarth cyfan, ac mi allwch greu darn gwych o theatr gorfforol. Mae’n help mawr i fagu sgiliau canolbwyntio a disgyblaeth ymysg y dysgwyr. Rho cais arni!
Gweithgaredd 3: Bocs Hud
- Yn eistedd mewn cylch mae’r myfyrwyr yn pasio bocs hud anweledig o gwmpas. Defnyddiwch y rownd cyntaf fel cyfle i ymarfer sgiliau mime chi a’r disgyblion. Gall y focs rydych yn pasio o gwmpas bod yn focs mawr, trwm, llithrig, neu bregus er enghraifft.
- Mae pob myfyriwr yn ei dro yn agor y focs hud ac yn esgus tynnu allan yn ofalus rhywbeth maen nhw wedi dychmygu sydd yn y bocs, gan ei ddangos i bawb sut mae defnyddio’r eitem yma yn ogystal.
- Unwaith y bydd rhywun arall wedi dyfalu’r ateb yn gywir, maen nhw’n ei roi’n ôl yn y bocs, yn rhoi’r caead yn ôl ac yn ei basio ymlaen i’r person nesaf i weld beth sydd ynddo.
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth?
CYSYLLTIADAU: Mwy o weithgareddau a gemau i chwarae gyda’ch dysgwyr
www.dramatoolkit.co.uk/drama-games
www.dramanotebook.com/drama-games
www.bbbpress.com/dramagames
Mae hwn yn rhan o gyfres o 15 fideo a thaflen adnoddau ‘Sgiliau dim Ffriliau’, a grëwyd gyda chymorth Hyrwyddwyr Celfyddydau A2:Connect. Athrawon yw’r Hyrwyddwyr Celfyddydau, sy’n gweithio gyda ni i rannu eu harfer a’u harbenigedd gydag ysgolion/athrawon eraill yn y rhanbarth.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.