27 Mai 2020

Sut gallwn ni helpu athrawon?

Rhowch wybod i ni os oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud i’ch helpu?

Rydyn ni eisiau gwybod sut rydych chi’n ymdopi wrth i’r cyfyngiadau symud barhau ac wrth i’r ysgolion aros ar gau. Rydyn ni eisiau clywed sut gallwn ni helpu athrawon.

Rydyn ni yma, ac rydyn ni am gefnogi athrawon i oresgyn yr amser heriol yma.

Sut gallwn ni helpu athrawon?

Rhowch wybod i ni beth fyddai’n eich helpu chi a’ch disgyblion i oroesi’r diwrnod, goroesi yfory a goroesi’r dyfodol ansicr.

Os gallwn ni ei wneud, fe wnawn ni.

Anfonwch eich syniadau i a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com

 

Yn y cyfamser, dyma ddolenni newydd a allai fod o ddefnydd i chi…

 

https://wno.org.uk/cy/playopera

https://www.intofilm.org/news-and-views/articles/activities-for-young-people-to-do-at-home

arts-active-trust.flywheelstaging.com/cy/prosiectau/open-orchestras/

 

…a chofiwch am ein blog ym mis Mawrth gyda rhestr o’r holl weithgareddau digidol.

 



*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD