Bydd y sgwrs hon yn mynd â chi o draciau sain prysur oes y ffilmiau tawel drwy arddull operatig foethus dyddiau cynnar Hollywood ac arbrofion y 60au, hyd at yr amrywiaeth syfrdanol o glasuron cyfoes – gyda detholiad gwych o glipiau ffilm i amlygu grym y sgôr gerddorol.
Mae ein sgyrsiau map ffordd Clasurol yn rhan o Ychwanegion Caerdydd Glasurol a raglennir gan Actifyddion Artistig, yn ategiad at raglen Cyfres Cyngherddau Caerdydd Glasurol yn Neuadd Dewi Sant.
Dyma ddigwyddiad anffurfiol, difyr, yn llai nag awr ond yn heigio gan wybodaeth hanfodol a thameidiau cyfareddol, a draddodir â chyffyrddiad ysgafn gan y Dr Jonathan James o’r piano.Pa un a ydych chi’n newyddian yn y byd yma ac yn chwilfrydig, neu’n hen law cyngherdda, fe fydd yna ddigonedd i chi gael blas arno.
Cynhelir y sgwrs yn ein stiwdio Lefel 1 ac mae pris y tocyn yn cynnwys diod o’r bar.
Pris Safonol: £5.00: https://www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk/…/map-ffordd…/