Cyngherddau a Datganiadau Clasurol Caerdydd i’r Rheini sydd â’u bryd ar Gerddoriaeth Glasurol!
Mae’n bleser gennym eich hysbysu y bydd rhaglen Glasurol Caerdydd o gyngherddau o ansawdd uchel yn parhau ledled y ddinas mewn lleoliadau amrywiol ar draws Caerdydd, tra bod Neuadd Dewi Sant ar gau dros dro. Bydd y cyngherddau hyn yn cael eu cyflwyno gan Actifyddion Artistig, yr adran ddysgu cymunedol a phartneriaethau allgymorth ar gyfer Cyngor Caerdydd, a leolwyd gynt yn Neuadd Dewi Sant.
Cyngherddau a Datganiadau Clasurol Amser Cinio
Mae’r rhaglen hon yn proffilio llawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus ynghyd â chefnogi artistiaid newydd o bob cwr o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr hyn yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Eglwys Andreas ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis.
Maent yn hygyrch, ymlaciol, anffurfiol ac yn gyflwyniad perffaith i unrhyw un sy’n newydd i’r sîn gerddoriaeth glasurol neu i’r rheini sy’n frwd dros gerddoriaeth glasurol. Y naill ffordd neu’r llall, gallwch chi alw draw a mwynhau’r rhain yn ystod egwyl amser cinio, gwneud prynhawn ohoni gyda ffrindiau neu deulu, neu ddod draw eich hun a mwynhau!
Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc
Mae’r Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc yn rhoi cyfle i egin gerddorion ifanc rhwng 14 a 18 oed ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi, offeryniaeth a threfnu cerddoriaeth. Mae’n gyfle gwerth chweil i bobl ifanc ddysgu gan gyfansoddwyr a cherddorion proffesiynol a gweithio ochr yn ochr â nhw; mae’n ddelfrydol i’r rheini sy’n datblygu portffolio o waith. Mae’r cyrsiau i gyfansoddwyr ifanc yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor a gwyliau’r haf.
Anfonwch e-bost i a2@artsactive.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Lab Cerdd
Mae Lab Cerdd yn ofod creadigol i bobl ifanc 14–18 oed arbrofi, cydweithio, a gwthio ffiniau creu cerddoriaeth. P’un a ydych chi’n hoffi curiadau, samplau, synths, neu offerynnau byw, dyma eich cyfle i roi cynnig ar bethau newydd, dysgu sgiliau newydd, ac archwilio posibiliadau technoleg cerddoriaeth.
Dan arweiniad tiwtor y cwrs Will Frampton ac yn ymuno â rhestr amrywiol o artistiaid gwadd o’r diwydiant cerddoriaeth, mae pob sesiwn yn rhoi cyfle i chi greu cerddoriaeth wreiddiol gan ddefnyddio amrywiaeth o offer – o offerynnau traddodiadol a llais i synau wedi eu darganfod, apiau, synths, dolenni, a DAWs (Gorsafoedd Gwaith Sain Digidol).
Byddwch chi’n cael recordio, golygu, cymysgu a dylunio sain, gan gymylu’r llinellau rhwng genres a darganfod eich sain unigryw eich hun. Mae croeso i chi hefyd ddod â’ch offeryn neu offer eich hun i’w ychwanegu at y gymysgedd.
Mae Lab Cerdd am ddim ac yn agored i sgiliau ar bob lefel. Dewch â’ch chwilfrydedd, a gadewch i ni wneud sŵn.
Rhaglen Ysgolion
Yn ystod y flwyddyn, byddwn ni’n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnig prosiectau cyfansoddi a pherfformio. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio drwy’r flwyddyn, felly cysylltwch ar bob cyfri’ i weld pa gyfleoedd cyffrous rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd.
Podlediadau
Cyflwynir y podlediadau gan Jonathan James ac Angharad Smith, neu ‘JJ a Haz’ fel y’u gelwir, ac mae’r ddeuawd fyrlymus hon yn pori drwy bob math o gerddoriaeth a genres, gan rannu â chi eu hoff ddarnau personol, ynghyd â rhai jôcs cerddorol sy’n ychwanegu teimlad chwareus ac anffurfiol i’r podlediad.
Mae podlediadau’n cael eu lanlwytho’n fisol a gellir cael gafael arnynt drwy’r rhan fwyaf o lwyfannau podlediadau drwy chwilio ‘Braving the Stave’ neu gallwch weld y rhestr lawn o benodau yma.