Mae ArtWorks Cymru yn chwilio am Reolwr Partneriaeth Llawrydd
Partneriaeth o sefydliadau yng Nghymru yw ArtWorks Cymru, sy’n datblygu arfer, yn cefnogi hyfforddiant a datblygiad gyrfaol, ac yn eirioli dros y celfyddydau cyfranogol yng Nghymru. Mae ArtWorks Cymru yn cael cyllid prosiect ac yn creu rhaglenni gwaith dan arweiniad gwahanol bartneriaid er mwyn hyrwyddo ei nodau.
Mae rhaglen ArtWorks Cymru 2022 – 2023 yn canolbwyntio ar ddatblygu, amrywio a gwerthuso ei fodel hyfforddi a mentora ar gyfer artistiaid cyfranogol llawrydd. Fel yn ein rhaglenni blaenorol, mae ArtWorks Cymru yn ymroddedig i wneud ein gwaith mor gynhwysol a hygyrch â phosib, a bydd galwadau agored sy’n rhan o’r rhaglen yn estyn at holl artistiaid a sefydliadau Cymru.
Mae partneriaeth ArtWorks Cymru yn cynnwys:
Actifyddion Artistig (partner arweiniol), Addo Creative, Artis Cymuned, Canolfan Mileniwm Cymru, Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Prifysgol De Cymru, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Celfyddydau mewn Iechyd Gwent, Cerdd Cymunedol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni’r Frân Wen, Cynyrchiadau Forget-me-not, Cynyrchiadau Omidaze, Cyswllt Celf, Engage Cymru, FIO, Head 4 Arts, Llenyddiaeth Cymru, Mess up the Mess, National Theatre Wales, Opera Cenedlaethol Cymru, Operasonic, Rubicon Dance, Sherman Cymru, SPARC, Syrcas Nofit State, Tanio, Theatr Borough y Fenni, Theatr Genedlaethol Cymru, a The Republic of the Imagination.
O ganlyniad i newid mewn staffio a chyllid newydd, rydyn ni bellach yn chwilio am Reolwr Partneriaeth llawrydd i reoli rhaglen 2022 – 2023.
Bydd rôl y Rheolwr Partneriaeth yn cael ei gontractio gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a bydd yn cynnwys 48 diwrnod o waith rhwng mis Ionawr 2023 a mis Tachwedd 2023. Cyfradd y tâl fydd £200 y diwrnod.
Gwahoddwn geisiadau drwy gyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb a CV cyfredol i a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 12 Rhagfyr. Croesawn geisiadau yn Gymraeg, Saesneg, neu drwy gyflwyno fideo neu recordiad sain.
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 19 Rhagfyr.
am fwy o wybodaeth