18 Mawrth 2025

DYBLU’R GWAHANIAETH

RHOWCH AC YMUNWCH AG YMGYRCH ARTS FOR IMPACT GAN BIG GIVE

Cefnogwch Soundworks, prosiect cyfranogiad a chreu cerddoriaeth gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu. Helpwch i gynnig hapusrwydd ac addysg am oes.

Y mis yma, mae wythnos ymgyrch cyfateb rhoddion Arts for Impact gan Big Give, ar gyfer elusennau celfyddydol sy’n gweithio i greu effaith yn y gymuned gyda’u prosiectau creadigol, rhwng 18 a 25 Mawrth.

Bydd pob rhodd sy’n cael ei rhoi i’n hymgyrch drwy BigGive.org yn ystod wythnos 18 a 25 Mawrth yn cael ei dyblu. Ie, wir – ei DYBLU.

Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn codi arian hanfodol i sicrhau bod rhaglen Cerddoriaeth a Llesiant Soundworks yn gallu parhau.

Gallwch ddysgu mwy a rhoi yma:
https://bit.ly/biggivesoundworks

Dydd Gŵyl Dewi Sant Dathliadau gyda Soundworks

Mae rhaglen Soundworks yn dod ag oedolion a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu at ei gilydd ar gyfer sesiynau creu cerddoriaeth wythnosol. Mae’r digwyddiadau ysgafn yma’n helpu cyfranogwyr a’u gofalwyr i ddatblygu sgiliau bywyd gan feithrin ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch. Dyma ddywedodd un aelod o staff cymorth “Rydyn ni wedi gweld canlyniadau na fydden ni byth wedi’u disgwyl – nid yn unig rhai cerddorol, ond rhai datblygiadol a chymdeithasol.”

Rydyn ni’n gwybod gan gyfranogwyr y prosiect bod y sesiynau creu cerddoriaeth yma’n cael effaith sylweddol arnyn nhw a’u gofalwyr. Mae’r gweithgareddau rheolaidd yn cefnogi dysgu, llesiant corfforol ac emosiynol, ac yn cynnig cyfle i ryngweithio’n gymdeithasol.

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD