Fel rhan o’n rhaglen Ychwanegiadau Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol rydym yn ychwanegu nodwedd ar wahanol offerynnau cerdd. Bydd y fideos byr hyn yn rhoi canllaw manwl i chi ar sut maen nhw’n gweithio, sut maen nhw’n swnio, sut olwg sydd arnyn nhw a’r repertoire a ysgrifennwyd ar eu cyfer. Bydd y rhain yn ddefnyddiol i gyfansoddwyr, y rhai sy’n astudio cerddoriaeth, neu unrhyw un sydd ddim ond yn ffansio gwybod ychydig mwy am yr offerynnau eu hunain.