Dydd Mawrth 7th Gorffennaf 2026

Datganiadau Amser Cinio Caerdydd Glasurol: James Morley

1:00PM - 2:00PM
Eglwys Dewi Sant

James MorleySielo

Wedi ei alw’n “sielydd mwyaf cyffrous Awstralia” (Limelight), mae’r cerddor o Awstralia sy’n byw yn y Swistir, James Morley yn gweithio’n bennaf fel unawdydd a cherddor siambr, ac mae’n aml yn crwydro i fyd y byrfyfyr arbrofol, byd electroneg a pherfformiadau ôl-offerynnol.

Yn 2024 daeth James yn Artist YCAT, yn dilyn perfformiad datganiad yn Neuadd Wigmore, cyn ennill Gwobr John Cage fel deuawd gyda Dmitry Batalov.  Mae uchafbwyntiau perfformiadau 2023-24 yn cynnwys rhoi ei ddatganiad unigol cyntaf yn Ystafell Utzon Tŷ Opera Sydney, teithio Awstralia gyda Jean-Guihen Queyras a Satsuki Odamura ar gyfer Musica Viva, datganiadau unawdol yn Phoenix Central Park Season XI, Gŵyl Harrogate, Tempo Rubato, Klänge, ac ymuno â’r Manchester Collective yn Neuadd Wigmore ac APEX4 yng Ngŵyl Sydney. Rhoddodd ei ddatganiad UKARIA unigol cyntaf yng Ngŵyl Adelaide 2022 i ganmoliaeth y beirniaid, ac roedd yn rownd derfynol Cymrodoriaeth Freedman mawr ei bri yn 2020. Yn 2025 dychwelodd i berfformio ar ei ben ei hun yn UKARIA, ynghyd â pherfformiadau yn Phoenix Central Park, Musica Viva, Gŵyl Gerdd Brunswick, Abbotsford Convent, a mwy. Yn 2026 bydd yn gerddor preswyl ym Mhrifysgol Harvard i weithio gyda’r Adran Gyfansoddi ar gasgliad o weithiau newydd ar gyfer sielo unigol, a bydd hefyd yn cyflwyno datganiadau unigol yn Neuadd Wigmore a’r Berlin Konzerthaus.

RHAGLEN:
inti figgis-vizueta: the motion between three worlds ` c. 5′
Domenico Gabrielli: Ricercar II ` 9′
Kaija Saariaho: Sept Papillons ` 11′
Zoltán Kodály: Solo Sonata ` 35′


Mae’r rhaglen hon yn proffilio llawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus ynghyd â chefnogi artistiaid newydd o bob cwr o Gymru, y DU ac Ewrop.   

Maent yn hygyrch, yn hamddenol, yn anffurfiol ac yn gyflwyniad perffaith i unrhyw un sy’n newydd i sîn cerddoriaeth glasurol neu sy’n frwdfrydig dros gerddoriaeth glasurol. Galwch draw i fwynhau’r rhain yn ystod egwyl ginio, gwnewch brynhawn ohono gyda ffrindiau neu deulu, neu dewch draw ar eich pen eich hun a mwynhewch!  

Mae datganiadau’n cael eu cynnal yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Eglwys Andreas, Caerdydd ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis, 1-2pm.   

Mae tocynnau’n £6.50 (wrth y drws, neu ymlaen llaw os ydych chi’n archebu gan ddefnyddio’r ddolen isod).  

Gwelwch y rhaglen lawn o ddatganiadau a chadwch eich lle yma.  

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at a2@artsactive.org.uk 

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD