Lab Cerdd Haf 2026

10:30AM - 3:00PM
Chapter Arts Centre

Mae’r Lab Cerdd ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 18 oed sydd â meddwl creadigol a brwdfrydedd am gerddoriaeth.

TIWTOR Y CWRS: WILL FRAMPTON

TIWTOR Y CWRS: DAN JOHNSON

FFOCWS Y SESIWN: Drymio, offerynnau taro a gwrando’n astud

Dan arweiniad y drymiwr Dan Johnson byddwn yn dysgu gwrando dwfn, rhythm a byrfyfyrio. Bydd Dan yn dangos y ffyrdd dyfeisgar y mae’n defnyddio drymiau ac offerynnau taro – gan gynnwys ychwanegu electroneg – cyn cyflwyno rhythmau a strwythurau i’n helpu i fyrfyfyrio cerddoriaeth newydd fel grŵp. Bydd pawb yn cael cyfle i chwarae’r drymiau yn ogystal â llawer o offerynnau taro. Mae hon yn sesiwn wych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau perfformio a rhythm

Mae Lab Cerdd yn ofod creadigol i bobl ifanc 14–18 oed arbrofi, cydweithio, a gwthio ffiniau creu cerddoriaeth. P’un a ydych chi’n hoffi curiadau, samplau, synths, neu offerynnau byw, dyma eich cyfle i roi cynnig ar bethau newydd, dysgu sgiliau newydd, ac archwilio posibiliadau technoleg cerddoriaeth.

Dan arweiniad tiwtor y cwrs Will Frampton ac yn ymuno â rhestr amrywiol o artistiaid gwadd o’r diwydiant cerddoriaeth, mae pob sesiwn yn rhoi cyfle i chi greu cerddoriaeth wreiddiol gan ddefnyddio amrywiaeth o offer – o offerynnau traddodiadol a llais i synau wedi eu darganfod, apiau, synths, dolenni, a DAWs (Gorsafoedd Gwaith Sain Digidol).

Byddwch chi’n cael recordio, golygu, cymysgu a dylunio sain, gan gymylu’r llinellau rhwng genres a darganfod eich sain unigryw eich hun. Mae croeso i chi hefyd ddod â’ch offeryn neu offer eich hun i’w ychwanegu at y gymysgedd.

Mae Lab Cerdd am ddim ac yn agored i sgiliau ar bob lefel. Dewch â’ch chwilfrydedd, a gadewch i ni wneud sŵn

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD