![](https://artsactive.org.uk/wp-content/uploads/2023/04/TIDDLYPROM117-cropped-image-50-e1681299190865-1156x720.jpg)
Dyma Actifyddion Artistig yn cyflwyno cyngerdd haf hamddenol fel rhan o brosiect Soundworks i oedolion a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Mae’r cyngerdd byr yma’n cynnwys rhaglen amrywiol o gerddoriaeth ysgafn a difyr gan arweinwyr cerdd Soundworks: Emma Davies ar y clarinét a Philip Richards-May ar y piano, ynghyd â’r ddeuawd wadd, Filkin’s Drift.
Dyma gyngerdd sy’n rhoi digon o gyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan, boed drwy chwarae offerynnau, cyd-ganu, neu ddim ond mwynhau’r awyrgylch. Mae’n addo bod yn llawer o hwyl a sbri i bawb.