Dydd Mawrth 9th Mehefin 2026

Soundworks Haf 2026

-
Western Leisure Centre

Mae ein gweithdai cerddoriaeth cynhwysol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn annog cyfranogwyr i archwilio synau, rhythmau ac offerynnau mewn gofod anffurfiol, hygyrch a diogel.  

Yn ystod y sesiynau, bydd cyfranogwyr yn archwilio blociau adeiladu sylfaenol cerddoriaeth gyda chefnogaeth ac anogaeth eu gofalwyr.   

Mae’r gweithdai hefyd yn cynnig cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio cerddoriaeth i adeiladu lefelau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder y bobl maen nhw’n eu cefnogi.  

Bob dydd Mawrth yn ystod y tymor, yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin, Trelái, Caerdydd.  

Mae dwy sesiwn ar gael, 11am-12:30pm a 1pm-2:30pm.   

Mae’r sesiynau am ddim.  

Os hoffech ymuno â’r grŵp, anfonwch e-bost at a2@artsactive.org.uk  

Mae’r sesiynau poblogaidd hyn yn cael eu harwain gan ddau gerddor gwyc, Emma a Phil. 

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD