A2: Cysylltu

Rhaglen o gyfleoedd dysgu proffesiynol ym maes y celfyddydau mynegiannol, sy’n helpu athrawon i ddefnyddio celfyddydau mynegiannol yn yr ystafell ddosbarth.

Dyma ein rhaglen o waith sy’n helpu athrawon i ddefnyddio celfyddydau mynegiannol yn yr ystafell ddosbarth ar lefelau cynradd ac uwchradd. Rydyn ni’n gweithio gyda Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De a’r Gwasanaethau Cyflawni Addysg i roi hyfforddiant datblygu proffesiynol dan arweiniad artistiaid ac ymarferwyr arbenigol i athrawon yn rhanbarthau’r De-ddwyrain a Chanolbarth y De.

At hynny, gallwn ni gynnig: 

  • Sesiynau hyfforddiant unigryw i athrawon a diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ym maes y celfyddydau mynegiannol ar lefel cynradd ac uwchradd.
  • Prosiectau ar y cyd ym maes y celfyddydau mynegiannol mewn ysgolion, sy’n cynnig profiadau creadigol ysbrydoledig i’r holl ddysgwyr – yn ddisgyblion ac yn athrawon – drwy brosiectau llawn difyrrwch sy’n cael eu harwain gan y dysgwyr.

Mae cysylltiad agos rhwng y rhaglen hon â plwg.cymru, sef ein gwefan rhwydweithio digidol i artistiaid ac athrawon lle gallan nhw gefnogi’i gilydd drwy rannu arbenigedd a sgiliau; drwy gyfleoedd i rwydweithio; a thrwy greu a chydweithio’n llwyddiannus ar brosiectau amrywiol a fydd yn cyfoethogi, yn grymuso ac yn ysbrydoli disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD