Dydd Mawrth 4th Mehefin 2024

Caerdydd Glasurol: Gerard Brooks – Organ

1:00PM - 2:00PM
Eglwys Dewi Sant,

Caerdydd Glasurol: Gerard Brooks – Organ

Yn 2008 ymunodd Gerard â staff Methodist Central Hall, San Steffan fel Cyfarwyddwr Cerdd, lle mae’n chwarae’r organ gyngerdd enwog Hill. Mae hefyd yn Guradur Organydd yr adluniad hanesyddol eithriadol o organ Richard Bridge o’r ddeunawfed ganrif yn Christ Church Spitalfields. Mae’n athro organ yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn diwtor i Academi Coleg Brenhinol yr Organyddion. Cefnogir y perfformiad hwn gan ddigwyddiadau Organ Caerdydd.

Mae’r rhaglen hon o gyngherddau hygyrch, anffurfiol yn rhoi proffil i lawer o gerddorion sefydledig ac adnabyddus, tra hefyd yn cefnogi artisitiad newydd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop. Bydd y datganiadau awr o hyd yma yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant San Andreas, ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis.

Tocynnau: £6.50 (ar y drws).

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD