Creadigrwydd ar gyfer Rhaglen Iechyd a Lles
Dechrau symud!
Mae’r dosbarthiadau yma wedi’u cynllunio i fod yn hwyl ac yn hygyrch, gan ganolbwyntio ar ffitrwydd gweithredol a chydbwysedd. Mae pob sesiwn yn gweithio ar ddatblygu sefydlogrwydd a chydbwysedd, gan integreiddio rhythm, grŵf a delweddau i wella’ch gallu symud. Yn bwysicach na dim, y nod yw bod y sesiynau’n hwyl ac yn gwneud i chi deimlo’n dda!
Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’r sesiynau ac yn ffordd i ni hel atgofion a rhannu profiadau. Does dim byd gwell na gweld y wên a’r chwerthin sy’n dod wrth i ni ailddarganfod y Perfformiwr neu’r Frenhines Ddawnsio sydd y tu mewn i ni!
Rydyn ni wedi datblygu tîm o bedwar ymarferydd dawns i arwain y sesiynau. Mae pob un yn dod â’u profiadau eu hunain a dealltwriaeth fanwl o symud a’i effaith ar y meddwl a’r corff.
Gellir darparu bob amser ar gyfer amrywiaeth o lefelau symudedd gydag addasiadau, gan gynnwys fersiynau eistedd, ar gyfer pob ymarferiad. Mae hyn yn sicrhau lefel briodol o her i bawb yn ogystal â lle i wneud cynnydd.




Creu Creadigol!
Caiff y sesiynau celfyddydau cyfranogol hyn eu harwain gan yr artist gweledol Emma Prentice, a chaiff y gweithgareddau eu teilwra i ddiddordebau ac ymateb parhaus y cyfranogwyr.

Mae gan Emma brofiad helaeth o weithio gyda phobl hŷn mewn ystod o wahanol gyd-destunau a gyda grwpiau o bob oed i gefnogi lles ac i annog mynegiant ac archwilio creadigol.
Mae’n gymaint o bleser gallu gweithio gyda grwpiau hŷn Creu Creadigol. Mae’r aelodau wedi bod yn chwilfrydig ac yn agored i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau creadigol newydd. Mae nifer y mynychwyr wedi cynyddu’n sylweddol ers i ni ddechrau’r sesiynau.
Mae’n deimlad gwych gweld cymaint ohonyn nhw’n cymryd rhan, oherwydd roedd nifer ohonyn nhw’n eithaf nerfus i gymryd rhan i ddechrau.






Y rhaglen Celfyddydau ac Iechyd Digidol
Cafodd ein rhaglen Celfyddydau ac Iechyd Digidol ei datblygu o waith a wnaed gyda phreswylwyr a staff mewn cartrefi ymddeol a chartrefi gofal yng Nghaerdydd. Mae’r gyfres hon o adnoddau ar-lein yn rhoi syniadau a chymorth i ofalwyr i’w galluogi nhw i weithio’n greadigol, naill ai mewn grwpiau neu’n unigol, gyda’r nod o wella lles, rhannu atgofion ac ysgogi’r synhwyrau. Drwy’r gweithgareddau hyn, mae modd gwella sgiliau echddygol manwl, sgiliau cydsymud llaw a llygad, a sawl cynneddf bwysig arall.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddefnyddio’r adnoddau digidol hyn, anfonwch e-bost i a2@artsactive.org.uk