Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc Caerdydd Glasurol
Haf 2022
Yn galw ar bob cerddor awyddus 14-18 oed sydd â diddordeb mewn cyfansoddi, offeryniaeth a threfnu cerddoriaeth…
Yr Haf hwn, bydd ein cynllun Cyfansoddwyr Ifanc Caerdydd Glasurol yn edrych ar gyfansoddi ar gyfer triawd fiola, telyn a ffliwt. Yn ystod y cwrs byddwch yn darganfod bydoedd sain y gwahanol offerynnau tra’n edrych ar eu gallu a’u cyfyngiadau er mwyn creu eich cyfansoddiadau eich hunain. Bydd y Cyfansoddwr proffesiynol Ashley John Long yn eich tywys drwy’r cwrs pedwar diwrnod i ddatblygu a gwella eich dealltwriaeth o gyfansoddi a threfnu, tra bydd Trio Vesta wrth law i wella eich dealltwriaeth o gyfansoddi ar gyfer ensemble viola, telyn a ffliwt ac yn recordio eich cyfansoddiad yn broffesiynol ar ddiwedd y cwrs. Bydd y recordiad hwn yn cael ei anfon atoch i’w gadw.
, Mae’r cwrs hwn AM DDIM a bydd yn cael ei gynnal o 15 – 18 Awst 2022
Mae hwn yn gyfle gwych a byddai’n edrych yn dda ar geisiadau addysg bellach. Bydd o fantais hefyd os ydych yn rhoi portffolio o waith at ei gilydd yn yr ysgol neu goleg, neu’n ceisio penderfynu pa lwybr gyrfa cyfansoddi i’w ddilyn neu roi cynnig arno.
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/summer-young-composers-course-2022-cwrs-cyfansoddwyr-ifanc-haf-2022-tickets-336414002337?aff=erelexpmlt neu e-bostiwch A2@arts-active-trust.flywheelstaging.com
Y tiwtor, Ashley John Long yn esbonio beth allwn ddisgwyl ar Gwrs Cyfansoddwyr Ifanc, Haf 2022.
Bywgraffiad Ashley John LongBywgraffiad Vesta Trio