Bert’s Magical Musical Farmyard
9, 14, 15, 16 mis Gorffennaf, 10:30am
Mae’n ddiwrnod prysur ar fferm Bert a llawer o waith i’w wneud. Ond ‘Oho’, mae’r glaw yn tywallt ac mae’r tractor yn sownd mewn ffos fwdlyd. Hyd yn oed gyda’i holl ffrindiau yn helpu ni all Bert dynnu’r tractor allan o’r twll llithrig. Efallai y gallwch chi a hud cerddoriaeth fyw eu helpu nhw?
Mae Buarth Cerddorol Hudol Bert yn gyngerdd rhyngweithiol, hygyrch ar gyfer plant dan 5 oed. Cyfle i blant a’r oedolion sy’n dod gyda nhw i fwynhau cerddoriaeth fyw.
Wedi ei gynhyrchu gan Arts Active, mae’r PromTidli yn brofiad cerddorol llawn mwynhad i blant bach a’r oedolion sy’n dod gyda nhw, gyda’r Clarinet, basŵn a Fiola yn serennu yn y cynhyrchiad hwn gyda chaneuon gwirion, hud.