4 Hydref 2022

Gadewch i ni Greu Celf

Gadewch i ni Greu Celf

Mae Actifyddion Artistig wrth eu boddau o gael bod yn Bartner Strategol ar gyfer ymgyrch #GadewchiNiGreuCelf2022 gan Engage UK.

Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r fenter yma sy’n rhedeg ar draws gwledydd Prydain, a’i chenhadaeth i daflu goleuni ar arfer ymgysylltu â’r celfyddydau
gweledol. Rydyn ni i gyd yn cydnabod ac yn deall potensial eang y celfyddydau gweledol i gefnogi iechyd a llesiant yn ein cymdeithas. Ein rôl ni fel partner strategol yw helpu i godi ymwybyddiaeth o rôl hanfodol ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol i hyrwyddo llesiant cadarnhaol ledled gwledydd Prydain, gan rannu mor werthfawr yw ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol i’n bywydau. Byddwn yn hyrwyddo gweithgareddau celfyddydau gweledol, cyfranogiad, ac ymgysylltiad yn ein cymunedau, gan ddathlu gwaith ystyrlon ledled gwledydd Prydain ar yr un pryd.

“Drwy gyfres o adnoddau, bwrsariaethau creadigol a chyfleoedd i rannu, bydd Gadewch i ni Greu Celf yn cefnogi sefydliadau ledled Prydain i ddarparu a gwerthuso gweithgareddau celfyddydol effeithiol. Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at berthnasedd rhannu arferion gorau, gwreiddio gwerthuso, ac ymgysylltu â’r gymuned. Bydd yn taflu goleuni pellach ar waith ystyrlon sefydliadau ledled gwledydd Prydain. Os ydych chi’n artist, yn addysgwr oriel, yn nain, yn daid, neu’n berson ifanc creadigol, gallwch ymuno gydag ymgyrch Gadewch i ni Greu Celf”.  Engage UK.

Bydd yr ymgyrch yma yn digwydd ledled Prydain rhwng 19 Hydref a 2 Tachwedd 2022. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y Bwrsariaethau Creadigol wedi’i ymestyn o 3 Hydref 2022, felly mae amser ychwanegol i wneud cais os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Dyma’r ddole Let’s Create Art – Engage

Engage UK yw’r brif elusen ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad yn y celfyddydau gweledol. Drwy eiriolaeth, ymchwil a hyfforddiant rydyn ni’n helpu i sicrhau ansawdd, cynhwysiant, a pherthnasedd cyfleoedd i ymgysylltu a chyfranogi ledled Prydain. Rydyn ni’n sefydliad ar gyfer holl
wledydd Prydain, ac mae’r gweithgarwch yng Nghymru a’r Alban yn cael ei arwain gan Engage Cymru ac Engage yr Alban.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD