17 Chwefror 2023

Cystadleuaeth Ffanffer 40fed Pen-blwydd Neuadd Dewi Sant

Mae Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, yn troi’n 40 ar y 15fed o Chwefror. Fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd mawr, ry’n ni am i chi gyfansoddi ffanffer pres ar gyfer y neuadd. Os ydych chi’n ystyried eich hun yn dipyn o Mozart neu Wagner, neu wedi cael syniad swynol sy’n cyfleu traddodiad a hanes anhygoel Neuadd Dewi Sant, ry’n ni am glywed gennych chi!

Bydd panel o feirniaid arbenigol yn dewis y ceisiadau buddugol o ddau gategori oedran: dan 18 a dros 18 oed. Yna, bydd y cyfansoddiadau buddugol hyn yn cael eu chwarae’n fyw yn Neuadd Dewi Sant yn ystod Proms Cymru!

Rhagor o wybodaeth

Kevin Price (Prif Feirniad) ARAM, FHEA, BMus, LRSM, LTCL

Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Ganwyd Kevin Price yn Wellington, Seland Newydd ac astudiodd ym Mhrifysgol Otago a Phrifysgol Auckland tra’n gweithio fel is-brif drombôn gyda Ffilharmonia Auckland ac fel chwaraewr llawrydd gyda Cherddorfa Symffoni Seland Newydd. Symudodd i Lundain ym 1989 ar ôl ennill ysgoloriaeth tair blynedd gyda Bwrdd Cyswllt yr Ysgol Gerdd Frenhinol (ABRSM) am astudiaeth ôl-raddedig yn y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Academi Gerdd Frenhinol, gan arwain at waith llawrydd gyda nifer o gerddorfeydd Llundain. Wedi hynny, penodwyd Kevin yn Brif Drombôn gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a dysgodd y trombôn yn Ysgol Gerdd Chetham a Choleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr.

Yn 2005, penodwyd Kevin yn Bennaeth Astudiaethau Pres ac Offerynnau Taro CBCDC gan ei alluogi i adeiladu ar draddodiad cyfoethog o berfformiadau lefel-uchel a goruchwylio datblygiad gweithgareddau galwedigaethol mewn cerddoriaeth siambr pres, perfformiad hanesyddol, allgymorth addysgol, dulliau addysgu pres ac ymarfer iach.

Mae Kevin yn gwneud gwaith archwilio mewn ysgolion cerdd arbenigol ac yng nghonservatoires y DU ac yn gweithio fel adolygydd, beirniad cystadlaethau a dyfarnwr gwyliau. Mae’n arholwr Diploma ar gyfer Bwrdd Cyswllt yr Ysgolion Cerdd Brenhinol a chafodd ei wneud yn Gydymaith i’r Academi Gerdd Frenhinol (ARAM) yn 2012. Mae’n aelod o’r Llys Cynorthwywyr ar gyfer Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion ac yn cefnogi gwaith Cronfa Elusengar y Cerddorion a’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Meddyginiaeth Celfyddydau Perfformio (BAPAM), gan gynorthwyo cerddorion perfformio i ddilyn gyrfaoedd gweithredol ac iach.

O 2016, gwasanaethodd Kevin fel Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro CBCDC, gan arwain at ei benodi’n Bennaeth Perfformiadau Cerddoriaeth yn 2017, ac yna’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Cerdd. Mae’r rôl yn gofyn iddo gydbwyso a chyfuno hyfforddiant proffesiynol myfyrwyr cerddoriaeth gyda rhaglen gelfyddydau fywiog ac amrywiol CBCDC, gan sicrhau bod pob artist o’r radd flaenaf sy’n ymweld â CBCDC yn dod â budd sylweddol i brofiad hyfforddi’r myfyrwyr. Tra’n datblygu a hwyluso cyfleoedd perfformio trawsddisgyblaethol a gwelliannau parhaus i fyfyrwyr, mae hefyd yn cefnogi datblygiad proffil y Coleg fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a’i gyfranogiad o fewn addysg gerdd yng Nghymru a rhwydweithiau’r diwydiant cerddoriaeth ryngwladol.

Philip Harper 

Philip Harper yw Cyfarwyddwr Cerdd y Cory Band, a fydd yn perfformio ym Mhroms Cymru yn Neuadd Dewi Sant ar 12 Gorffennaf. Yn 1991 cyrhaeddodd Ffeinal Pres Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ac ers hynny mae wedi adeiladu rhestr drawiadol o wobrau gan gynnwys nifer o wobrau Ewropeaidd, Agored Prydain, Cenedlaethol a Brass in Concert, a gwobrau Arweinydd y Flwyddyn. Mae wedi bod yn arweinydd gwadd ar gyfer y Manger Musikklag Band yn Norwy, Bandiau Pres Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr, y Swistir a Chymru a Band Pres Symffonig y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.

Mae Philip yn gyfansoddwr cynhyrchiol ac mae ei gyfansoddiadau a’i drefniannau yn cael eu chwarae ledled y byd. Mae ei waith yn cynnwys A Shakespearean Triptych ar gyfer ensemble a chôr o 650, a arweiniodd mewn cyngerdd orlawn yn y Royal Albert Hall.

Philip oedd Golygydd y cylchgrawn Brass Band World rhwng 2009 a 2015 ac, ers 2005, mae wedi bod yn Olygydd Cerdd cwmni cyhoeddi Wright & Round.

Dr Jonathan James

Dechreuodd Dr Jonathan James ei yrfa fel arweinydd cerddorfaol gyda chymrodoriaeth i Gerddorfa Ffilharmonig Boston a ddilynwyd gan ymrwymiadau yn Ewrop a’r DU.  Mae’r profiad hwn wedi llywio ei waith fel addysgwr yn fawr, fel siaradwr ar y repertoire clasurol ac arweinydd gweithdy creadigol.

Yn y rolau hynny, mae Jonathan wedi gweithio gyda cherddorfeydd ledled y DU ac Ewrop (gan gynnwys Cerddordfa Ffilharmonig y Weriniaeth Tsiec, cerddorfeydd y BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Symffoni Bournemouth), gyda BBC Radio 3, conservatoires (y Coleg Cerdd Brenhinol ac Ysgol Gerdd a Drama Neuadd y Gorfforaeth), prifysgolion ac ysgolion, ac ystod gyfan o leoliadau a chymunedau, o Gerddorfa Genedlaethol y Plant hyd at gerddorion sy’n ceisio lloches a phobl sy’n gwella o gaethiwed.

Mae ei PhD mewn addysg gerddorol a chreadigrwydd wedi dyfnhau’r arfer hwn, yn ogystal â darlithio ar offeryniaeth ar gyfer Prifysgol Bryste. Ar wahân i’r gwaith cymunedol, mae ei arbenigedd bellach yn helpu chwaraewyr datblygedig i fyrfyfyrio a chydweithio’n greadigol.  Mae ei gyfansoddi a’i fyrfyfyrio ei hun yn tynnu ar hyn, ac mae’n gyson yn creu ac yn trefnu darnau offerynnol a chorawl i grwpiau y mae’n gweithio gyda nhw. Yn ogystal â’r clasurol-gyfoes, mae’n mwynhau archwilio dylanwadau jazz a cherddoriaeth y byd a’i nod yw cadw ei hun yn arddulliadol hyblyg.

Yn 2012, sefydlodd y Bristol Pre-Conservatoire, ysgol gerdd ar gyfer cerddorion ifanc talentog.  Yma mae’r pwyslais ar gerddoriaeth greadigol a hyfforddiant siambr, ac mae wedi bod yn fentor cyfansoddi i nifer o fyfyrwyr dros y ddegawd.  Y peth sy’n ei gyffroi fwyaf yw gweld hadau’n troi’n ddarnau llawn sy’n cael eu perfformio’n ysblennydd.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD