Cyfansoddiad Ysgolion Cynradd – Cwrs Digidol Haf 2020.

Cyfansoddiad Ysgolion Cynradd – Cwrs Digidol Haf 2020

Fel rhan o’n Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol – Ychwanegiadau bob blwyddyn rydym yn cynnal gweithdai cyfansoddi a chyngherddau ar gyfer plant ysgolion uwchradd a chynradd. Dylai ein project cyfansoddi ysgolion cynradd fod wedi gweld y cyfansoddwr Helen Woods yn gweithio mewn 8 ysgol gynradd ar draws Bro Morgannwg a Chaerdydd yn ystod Mawrth 2020, yn arwain at gyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda’r Hermes Experiment. Roedd y prosiect hwn yn gweithio gyda Gŵyl Gerdd Bro Morgannwg gyda chefnogaeth Neuadd Dewi Sant, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ty Cerdd a Chyngor Bro Morgannwg.

Yn anffodus, oherwydd y pandemig COVID19 bu’n rhaid canslo’r project hwn. Doedden ni ddim am i ddisgyblion golli’r cyfle cyffrous hwn i greu eu cerddoriaeth eu hunain, felly rydym wedi llunio pecyn i ddisgyblion cyfnod allweddol 2 ei wneud gyda’u hathrawon/rhieni/gwarcheidwaid gartref, neu yn yr ystafell ddosbarth, lle bynnag y bo’n ddiogel i wneud hynny. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau a byddem wrth ein boddau yn clywed eich cyfansoddiadau cerddorol.

Fideos cyfeilio ar gyfer y pecyn hwn:

https://youtube.com/playlist?list=PLagNc1Hy0DxK3lpXg9zPr1basx27OpO2h

Anelir y pecyn hwn at ddisgyblion cyfnod allweddol 2 ac mae’n edrych ar ddefnyddio storïau i greu cyfansoddiadau cerddorol.

Rhestr chwarae a argymhellir:

[fusion_code]PGlmcmFtZSBzcmM9Imh0dHBzOi8vb3Blbi5zcG90aWZ5LmNvbS9lbWJlZC9wbGF5bGlzdC8xa2NOVHpxRW1kdUV2RG9Ic1ZLZ2FuIiB3aWR0aD0iMzAwIiBoZWlnaHQ9IjM4MCIgZnJhbWVib3JkZXI9IjAiIGFsbG93dHJhbnNwYXJlbmN5PSJ0cnVlIiBhbGxvdz0iZW5jcnlwdGVkLW1lZGlhIj48L2lmcmFtZT4=[/fusion_code]

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD