Trosglwyddo i Flwyddyn 7.

Trosglwyddo i Flwyddyn 7

Mae popeth yn wahanol ac ychydig yn rhyfedd ar hyn o bryd ac mae pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn gyfnod nerfus i ddisgyblion. Gyda’r holl darfu ar dymor yr haf gwyddom fod yna straen a gofidiau ychwanegol i’r disgyblion hynny sy’n mynd i’r ysgol uwchradd ym mis Medi ac felly gobeithiwn gynnig rhywfaint o gefnogaeth gyda’r broses hon.

Rydym wedi creu pecyn “pasport i flwyddyn 7” sy’n hawdd i’w lawrlwytho ac wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. Bydd ymarferion i’w helpu yn ystod y cyfnod a dod o hyd i atebion i ddelio â’r teimladau a’r ansicrwydd a allai fod ganddynt.  Nod y pecyn yw cefnogi ymdeimlad o hunan-barch a dealltwriaeth o gryfderau’r unigolyn.  Mae’r pecyn i fod yn ffordd hwyliog a chreadigol i dywys disgyblion drwy eu haf a’u siwrne i’r ysgol uwchradd ym mis Medi.

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD