Mae gemau drama’n ffordd wych o helpu disgyblion i ddatblygu meddwl creadigol. Bydd ein sesiwn gyntaf yn archwilio gemau amrywiol a fydd yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau cydweithredol, eu dychymyg, eu chwilfrydedd, eu dyfalbarhad, a’u disgyblaeth. Bydd pob gêm wedi’i thargedu at arferion creadigol, gan roi cyfle i’r athro arsylwi ymatebion y disgyblion. Yn ein hail sesiwn, byddwn ni’n symud ymlaen at archwilio’r corff, y llais, a chwarae rhydd. Bydd pob sesiwn yn gweithredu fel canllaw, gan alluogi’r athrawon i ddysgu’r hanfodion a meddwl ynghylch beth fydd yn gweithio iddyn nhw. Bydd cyfle i fyfyrio a thrafod.