Cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Gwanwyn

10:00AM - 1:30PM
Chapter Arts Centre

 

Ydych chi’n gerddor ifanc uchelgeisiol rhwng 14-18 oed?

Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau cyfansoddi, offerynnu a chreu trefniannau?

Bydd cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig y tymor hwn yn canolbwyntio ar ddysgu i gyfansoddi ar gyfer triawd piano, clarinét a ffidil. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr a cerddorion proffesiynol ac yn cael eich tywys gan y cyfansoddwr Gareth Moorcraft.

Ar ddiwedd y cwrs 4-diwrnod AM DDIM hwn, cewch glywed eich cyfansoddiad yn cael ei chwarae’n fyw gan y cerddorion. Caiff y perfformiad ei recordio a’i anfon allan i chi ei gadw a’i gynnwys mewn unrhyw bortffolio y gallech fod yn ei adeiladu ar gyfer ysgol neu brifysgol.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD