Prom Tidli – Bert’s Magical Musical Kitchen

10:30AM - 11:30AM

Cyngerdd hygyrch, rhyngweithiol i blant dan bump oed yw Bert’s Magical Musical Kitchen. Mae’n gyfle gwych i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd fwynhau cerddoriaeth fyw. 

Nid yn unig y mae’n berfformiad llawn hwyl, ond mae hefyd yn addysgiadol. Mae’n dysgu sgiliau gwrando, sgiliau cerddorol, sgiliau datrys problemau a sgiliau gwaith tîm. Ac mae hefyd yn cyflwyno offerynnau cerddorfaol i blant y blynyddoedd cynnar. 

Fe welwn ni Bert yn creu teisen yn fyw ar y llwyfan. Wrth iddo gymysgu’r menyn, y siwgr, yr wyau a’r blawd i greu teisen flasus, mae’r cynhwysion cerddorol yn cyfuno i greu sgôr hyfryd a dyfeisgar. Wrth aros i’r deisen bobi, mae Bert a’i ffrind Cherry yn canu caneuon gwirion, ac yn creu hud a lledrith, cerddoriaeth a miri wrth baratoi at barti pen-blwydd arbennig yng nghwmni’r Maer.

Mae sioe Bert’s Magical Musical Kitchen wedi’i chreu’n arbennig gan dîm creadigol Actifyddion Artistig ar gyfer plant dan bump oed, ac mae’n gyfle gwych i blant ifanc fwynhau cerddoriaeth yn rhyngweithiol, a hynny yng nghwmni cerddorion proffesiynol gyda digon o hwyl a chreadigrwydd. Mae’r perfformiad yn cynnwys sgôr i’r clarinét, y bas dwbl, y trwmped ac offerynnau taro, gan gyflwyno’r offerynnau cerddorfaol hyn i blant ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw fwynhau gwefr clywed offerynnau acwstig byw.

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD