18 Ionawr 2023

Soundworks yn dychwelyd ar gyfer Gwanwyn 2023

Mae Soundworks, gweithdy creu cerddoriaeth rheolaidd Actifyddion Artistig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn ailddechrau Ddydd Mawrth 24 Ionawr.

Y tymor hwn yn Soundworks byddwn yn dathlu Noson Burns, Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Sant Padrig a bydd ein themâu wythnosol yn archwilio popeth, o pizza i gŵn bach!  Byddwn yn dysgu am rai o flociau adeiladu sylfaenol cerddoriaeth, gyda chyfle i ddysgu am a rhoi cynnig ar ystod eang o wahanol offerynnau.

Mae Soundworks yn galluogi cyfranogwyr i archwilio a chreu cerddoriaeth mewn modd pleserus a hygyrch, tra bod gan eu gweithwyr cymorth gyfle i ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio cerddoriaeth i feithrin lefelau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.

Mae Soundworks yn digwydd yn ein stiwdio Lefel 1 yma yn Neuadd Dewi Sant ac mae sesiynau’n hollol rhad ac am ddim i fynychu.  Os hoffech chi fynychu Soundworks, gyrrwch e-bost atom i A2@arts-active-trust.flywheelstaging.com

Ein Dyddiadau Tymor y Gwanwyn 2023

  • 24 Ionawr: Thema Noson Burns
  • 31 Ionawr: Mis Hanes Pobl Dduon
  • 7 Chwefror: Thema Diwrnod Pizza Cenedlaethol
  • 14 Chwefror: Thema Dydd San Ffolant
  • GWYLIAU HANNER TYMOR
  • 28 Chwefror: Thema Gŵyl Dewi
  • 7 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  • 14 Mawrth: Thema Dydd Sant Padrig
  • 21 Mawrth:  Thema Diwrnod Cenedlaethol Cŵn Bach

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD