7 Chwefror 2023

Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc Gwanwyn 2023

Cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Gwanwyn 2023; Dysgwch i gyfansoddi ar gyfer ensemble pres.

Caiff eich darn wedi’i recordio A chewch gyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth ffanffer pen-blwydd Neuadd Dewi Sant!

Ydych chi’n gerddor ifanc uchelgeisiol rhwng 14-18 oed? Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau cyfansoddi, offerynnu a chreu trefniannau?

Ym mis Chwefror eleni, mae Neuadd Dewi Sant yn dathlu ei 40fed pen-blwydd ac fel rhan o’r dathliadau, rydym am i chi ysgrifennu ffanffer pres, gyda chyfle i gyflwyno eich cyfansoddiad mewn cystadleuaeth gyhoeddus.

Ar y cyd â Chyfres Glasurol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant, bydd cwrs Cyfansoddwyr Ifanc Actifyddion Artistig y tymor hwn yn canolbwyntio ar ddysgu i gyfansoddi ar gyfer ensemble pres. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag offerynwyr pres proffesiynol ac yn cael eich tywys gan y cyfansoddwr Richard Barnard.

Ar ddiwedd y cwrs 4-diwrnod AM DDIM hwn, cewch glywed eich cyfansoddiad yn cael ei chwarae’n fyw gan y cerddorion. Caiff y perfformiad ei recordio a’i anfon allan i chi ei gadw a’i gynnwys mewn unrhyw bortffolio y gallech fod yn ei adeiladu ar gyfer ysgol neu brifysgol.

Yn ogystal â dod i’r cwrs, cewch gyfle i gynnwys eich darn mewn cystadleuaeth i ddewis ffanffer 40fed pen-blwydd dathliadol Neuadd Dewi Sant! Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan banel o gyfansoddwyr proffesiynol a bydd y cais buddugol yn cael ei chwarae’n fyw yn Neuadd Dewi Sant yn ystod Proms Cymru.

Cofrestrwch yma!

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Neuadd Dewi Sant yn dathlu ei 40fed pen-blwydd, cadwch lygad ar wefan Neuadd Dewi Sant.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD