Symud a Dawns.

Symud a Dawns

Dewch i ymuno â’n dawnswyr rhyfeddol gyda 4 sesiwn a fydd yn cadw’r teulu cyfan yn egnïol ac yn symud yr haf hwn.

Cynhesu gydag Aisling a Liam a dysgu rhywfaint o goreograffi. Dwy lefel gallu ar gael i ddewis ohonynt. 

Dosbarth mwy traddodiadol i gael eich corff i symud. Wedi’i anelu at symudedd, hyblygrwydd a chryfder. 

Byrfyfyrio creadigol wedi’i seilio ar dasgau. Archwilio a dysgu am yr ochr greadigol o fewn dawns. Cyflwynir yn ddwyieithog yn Saesneg a Chymraeg. 

Ymunwch ag Aisling a Liam ar gyfer ein sesiwn olaf lle maen nhw’n cymryd ychydig bach o bob un o sesiynau’r wythnosau blaenorol i ddangos i chi sut i roi dawns at ei gilydd.

Yn addas ar gyfer oedrannau 7+

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD